;

NEWS ARTICLE

Back

Press Release: New sporting facilities, including athletics track arrive at Carmarthen Leisure Centre

Carmarthenshire County Council Press Release

Work has been completed at Carmarthen Leisure Centre following a £1.5 million investment by Carmarthenshire County Council.

The improvements works which include a new eight-lane athletics track and a world class 2G astro turf pitch surface have been funded under the council’s capital works programme.

Features of the upgraded competition spec track include two 100m sprint tracks, a 400m track, startrack system and a complete lighting system replacement.

The four tennis courts have also undergone a ground respray with new netting and additional access and exit points.

Additional parking has been provided to meet current demand and a one way system has been introduced which will ease traffic flow.

More fencing and goal storage has been built around the 2G pitch to allow safe use of the facility for multiple sports, along with new light bases, spectator rails and rebound fencing.

The council’s executive board member, Cllr Peter Hughes Griffiths, said: “We are pleased that we have been able to make this significant investment available for our leisure centre. More people than ever are using the centres to get more active and healthy, so it is critical that we are able to provide them with modern facilities that compete with a busy private sector market. If we don’t invest we face the possibility of losing our customers which would have a long term effect on the viability of our leisure centres. This investment will benefit our members and the local community and schools.”

Over £3 million has being ploughed into Carmarthen and Ammanford centres to ensure sport facilities are fit for the future.

Cllr Hughes Griffiths added: The new pitch will offer people a world-class facility for people to enjoy in all weathers, throughout the day and evening and will be open for hire by the public, clubs, schools and others for soccer, hockey and a range of sports and activities.”

Photo: Carmarthenshire County Council

 

Datganiad Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae gwaith wedi'i gwblhau yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn dilyn buddsoddiad gwerth £1.5 miliwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r gwelliannau, sy'n cynnwys trac athletau newydd ag wyth lôn a chae Astrotyrff 2G o'r radd flaenaf, wedi'u hariannu o dan raglen gwaith cyfalaf y cyngor.

Mae nodweddion y trac cystadlu sydd wedi'i uwchraddio yn cynnwys dau drac sbrint 100m, trac 400m, system 'startrack' a system oleuadau hollol newydd.

Mae'r pedwar cwrt tenis hefyd wedi cael eu hailchwistrellu gyda rhwydi newydd a mynedfeydd ac allanfeydd ychwanegol.

Mae mannau parcio ychwanegol wedi cael eu darparu i fodloni'r galw presennol ac mae system unffordd wedi'i chyflwyno a fydd yn helpu llif traffig.  

Mae mwy o ffensys a storfeydd goliau wedi'u hadeiladu o amgylch y cae 2G i sicrhau y gellir defnyddio'r cyfleuster yn ddiogel ar gyfer nifer o chwaraeon, ynghyd â goleuadau newydd, rheiliau gwylwyr a ffensys wedi'u hailrwymo.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol: "Rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol hwn ar gael ar gyfer ein canolfan hamdden. Mae mwy o bobl nag erioed yn defnyddio'r canolfannau i fod yn fwy egnïol ac iach, felly mae'n hanfodol ein bod yn gallu darparu cyfleusterau modern iddynt sy'n cystadlu â marchnad brysur y sector preifat. Os na fyddwn yn buddsoddi, rydym yn wynebu'r posibilrwydd o golli ein cwsmeriaid a fyddai'n cael effaith hirdymor ar hyfywedd ein canolfannau hamdden. Bydd y buddsoddiad hwn o fudd i'n haelodau a'r gymuned leol ac ysgolion."

Mae dros £3 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yng nghanolfannau hamdden Caerfyrddin a Rhydaman i sicrhau bod cyfleusterau chwaraeon yn addas ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes Griffiths: Bydd y cae newydd yn cynnig cyfleuster o'r radd flaenaf i bawb eu mwynhau ym mhob tywydd a hynny drwy gydol y dydd a'r nos, a bydd modd i'r cyhoedd, clybiau, ysgolion ac eraill ei hurio er mwyn chwarae pêl-droed, hoci, ac ystod o chwaraeon a gweithgareddau eraill."

Llun: Cyngor Sir Gaerfyrddin

 

Carmarthen Athletics Track Refurbishment Work in Picture

img